Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Meistres Pobun (Cyfanswm: 38)

 
(0, 3) 281 Y sawl a fynno gadw pawb i ddisgwyl yn rhy hir amdano ac yntau'r pennaf o'r cwmpeini oll, yna bydd raid myned gyda symbalau a ffaglau i'w geisio a'i ddwyn at ei ddyletswydd.
 
(0, 3) 284 Yr oeddwn yn tybio, cyn i mi gyrraedd atat, fod rhywun yma yn d'ymyl yn peri rhyw ddrwg ti.
 
(0, 3) 287 Mae'r geiriau hyn yn peri poen i mi, ac ni ddisgwyliwn monynt gennyt chwaith.
(0, 3) 288 Ni'm denir i gan bob rhyw hogyn gwirion, tydi dy hunan yw fy nghariad i—a'm gŵr.
 
(0, 3) 290 Peth hy yw cariad hogyn, peth heb barch; peth tyner, mawr ei fryd, yw cariad gŵr.
(0, 3) 291 Bydd ei law ef yn hael a'i fryd yn gyson, hynny fydd yn tynnu merched ato.
 
(0, 3) 293 Y mae'r gair yna'n gyrru ofn arnaf.
(0, 3) 294 Y mae angau fel sarff wenwynig, yn gorwedd o'r golwg dan y blodau—ni ddylid byth mo'i deffroi hi.
 
(0, 3) 297 A adwaen innau'r ddeubeth hyn, a pha beth yw eu henwau?
 
(0, 4) 343 Pa beth sydd arnat, beth sy'n dy flino?
 
(0, 4) 346 Cymerwch eich lleoedd fel y mynnoch!
(0, 4) 347 Chwi fechgyn, dowch â dŵr i ni olchi'n bysedd.
 
(0, 4) 349 Pam y sefi di mor synn?
(0, 4) 350 Eistedda ni i lawr.
 
(0, 4) 352 Beth sydd o'i le arnat?
(0, 4) 353 A wyt ti'n glaf, dywed?
 
(0, 4) 357 Eistedd!
(0, 4) 358 Dywed ryw air caredig wrthynt!
 
(0, 4) 368 A saif y gair amdanaf innau hefyd?
 
(0, 4) 371 Y mae dy lygaid di yn rhythu'n ofnadwy!
(0, 4) 372 Am ba beth y mynni di roi cosb arnaf i, dywed?
 
(0, 4) 376 Er mwyn cariad Crist, pa beth sydd o'i le arnat, fy nghariad annwyl?
(0, 4) 377 Dyma fi gyda thi, gwel fi, eiddot ti wyf, heddiw ac yn dragywydd.
 
(0, 4) 382 Duw fo'n gwarchod!
 
(0, 4) 387 Chwi gyfeillion a cheraint annwyl, y mae rhywbeth yn rhyfedd ar f'anwylyd heddiw.
(0, 4) 388 Ni wn i ddim i ble i droi.
(0, 4) 389 Oni ellwch chwi roi rhyw gymorth i mi?
(0, 4) 390 Dyma fo'n sefyll yn ddigalon ac ar wahan, ac yn sôn am bethau sy'n chwithig.
(0, 4) 391 Ni welais erioed mono fel hyn o'r blaen.
 
(0, 4) 393 Ni wn i ddim beth a all fod wedi digwydd iddo.
 
(0, 4) 479 'Rwy'n erfyn, peidiwch â rhoi'r gorau i ganu.
 
(0, 4) 483 Da chwithau, na thewch â chanu.
 
(0, 4) 499 Pobun!
(0, 4) 500 Ie, gwel, dyma dy Gydymaith annwyl.
 
(0, 4) 513 Ni chlywaf i ddim sain.
 
(0, 4) 524 Rhaid iti addo hynny i mi, f'anwylyd!
(0, 4) 525 Mi drengwn o ing a gofid pe'th welwn yn fynych fel yna!
 
(0, 5) 546 Cymorth, Arglwydd Waredwr!